Amdanom ni
- Moneymadeclear
- Corff Addysg Ariannol Defnyddwyr (CFEB)
- Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA)
- Datrys cwynion
- Cysylltu â ni
Mae gwasanaeth Moneymadeclear yn rhoi gwybodaeth a chanllawiau diduedd i chi am eich arian er mwyn eich helpu i weithio allan beth sy'n iawn i chi. Ni fyddwn yn gwerthu unrhyw beth i chi ac nid ydym yn argymell cynhyrchion na darparwyr penodol.
Cyflwynir Moneymadeclear gan Gorff Addysg Ariannol Defnyddwyr (CFEB).
Rydym yn cynnig gwybodaeth ddiduedd drwy gyfryngau amrywiol.
- Mae ein prif wefan Moneymadeclear yn cynnwys ystod gynhwysfawr o ganllawiau cam-wrth-gam i'ch helpu gyda phenderfyniadau ariannol a gwybodaeth am ystod eang o gynhyrchion a gwasanaethau ariannol. Mae'r wefan hefyd yn cynnwys:
- Tablau cymharu i'ch helpu i gymharu cynhyrchion ariannol (gan gynnwys cyfrifon cynilo, morgeisi a phensiynau) o ran eu costau a nodweddion eraill; ac
- adnoddau rhyngweithiol i'ch helpu i reoli eich arian (er enghraifft cyfrifianellau ar gyfer eich cyllideb, benthyciadau a morgeisi) neu eich helpu i wneud penderfyniadau ariannol (er enghraifft Prawf iechyd ariannol, Prawf dyledion a Chyfrifiannell Pensiwn).
- Mae gennym wefannau Moneymadeclear wedi eu teilwra i roi gwybodaeth fanwl i bobl ar gamau penodol.
- What about money? – gwefan sy'n targedu pobl ifanc 16-24 oed. Mae'n cynnwys gwybodaeth ac adnoddau i bobl ifanc ynglŷn â chamau mewn bywyd y gallant uniaethu â hwy.
- Y Canllaw ar arian i rieni – p'un a ydych yn gweithio gyda theuluoedd neu'n dechrau eich teulu eich hun, byddwch yn gwybod y gall rheoli eich arian fod yn her. Ar y wefan hon byddwch yn dod o hyd i lawer o wybodaeth, adnoddau a chyfrifianellau i'ch helpu i gynllunio, cyllidebu a chynilo arian. Mae'r canllaw hwn ar gael wedi ei argraffu hefyd - gweler isod.
- Divorce and separation – os ydych yn y broses o ysgaru, gwahanu neu ddiddymu partneriaeth sifil, gall y wefan hon eich helpu gyda'r materion ariannol y gallech eu hwynebu ac egluro'r prosesau cyfreithiol dan sylw.
- Ein canllawiau Moneymadeclear argraffedig am ddim
- Canllawiau argraffedig am ddim – sy'n mynd i'r afael ag ystod eang o bynciau, rhai cyffredinol a rhai am gynhyrchion penodol.
- Y Canllaw ar arian i rieni – a ddosberthir gan fydwragedd i famau babanod newydd a darpar famau.
- Y Llawlyfr Dileu Swyddi – ar gael gan rai cyflogwyr. Gallwch ddarllen y canllaw yma, neu gallwch ein ffonio i archebu copi – gweler Cysylltu â ni.
- Eich Canllaw ar Ymddeol – ar gael gan rai cyflogwyr os ydych yn agosáu at oedran ymddeol. Gallwch ddarllen y canllaw yma, neu gallwch ein ffonio i archebu copi – gweler Cysylltu â ni.
- Cynghorwyr hyfforddedig y gallwch siarad â hwy dros y ffôn neu wyneb yn wyneb – a ddarperir gan CFEB mewn partneriaeth â'r Llywodraeth. Disgwylir y bydd y gwasanaeth wyneb yn wyneb cenedlaethol yn weithredol yn ddiweddarach yn 2010.
Cymraeg
Mae gennym ystod o ddeunydd Cymraeg ac mae'r ystod hon yn cynyddu wrth i ni ddatblygu.
- Mae nifer o'n canllawiau argraffedig am ddim Moneymadeclear ar gael yn Gymraeg.
- Mae gwefan Canllaw ar arian i rieni ar gael yn Gymraeg, a dosberthir y canllaw argraffedig Cymraeg gan fydwragedd.
Mae CFEB yn gyfrifol am helpu defnyddwyr i ddeall materion ariannol a rheoli eu sefyllfa ariannol yn well.
Corff annibynnol ydyw, a sefydlwyd gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA).
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Dolenni perthnasol.
Sefydlwyd yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) gan y llywodraeth i fod yn rheoleiddiwr ariannol i reoleiddio gwasanaethau ariannol a diogelu eich hawliau. Mae'n pennu safonau y mae'n rhaid i gwmnïau gwasanaethau ariannol eu cyrraedd a gall gymryd camau gweithredu os nad ydynt yn gwneud hynny.
Mae'r FSA yn rheoleiddio'r rhan fwyaf o gwmnïau gwasanaethau ariannol, megis banciau, cymdeithasau adeiladu, undebau credyd, cwmnïau yswiriant, cynghorwyr ariannol, stocbroceiriaid, a gwerthwyr yswiriant a morgeisi. Mae ganddo gofrestr o'r cwmnïau y mae'n eu rheoleiddio. I ganfod a yw cwmni ar Gofrestr yr FSA, gallwch Weld Cofrestr yr FSA neu ffoniwch ei linell gymorth Defnyddwyr ar 0845 606 1234.
Dim ond os byddwch yn delio â chwmni sydd wedi'i awdurdodi gan yr FSA neu ei asiantau y cewch eich diogelu gan y cynlluniau cwynion ac iawndal.
Mae'r FSA yn ymchwilio i adroddiadau ynghylch hysbysebion ariannol neu ymgyrchoedd hyrwyddo eraill camarweiniol a gall hefyd herio cwmnïau sy'n defnyddio telerau annheg yn eu contractau â chwsmeriaid. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'w wefan.
Cwynion am gwmnïau
Os hoffech gwyno am gwmni gwasanaethau ariannol, gweler Os bydd pethau'n mynd o chwith neu gofynnwch am gopi o'n canllaw Gwneud cwyn – gweler
Canllawiau argraffedig am ddim.
Os byddwch yn anfodlon ar y ffordd y gwnaeth cwmni gwasanaethau ariannol ymdrin â'ch cwyn, gallech ei chyfeirio, o bosibl, at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol – gweler Dolenni perthnasol.
Cwynion am CFEB
Rydym yn ymrwymedig i helpu defnyddwyr i ddeall eu sefyllfa ariannol ac ymgysylltu â hi. Os oes gennych sylw ynghylch unrhyw agwedd ar ein gwaith, bydd eich adborth yn ein helpu i nodi meysydd lle y gallwn wella ein gwasanaeth i chi. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Dolenni perthnasol.
Os oes gennych gŵyn neu os hoffech wneud sylw am ein gwaith, cysylltwch â ni:
- drwy ffonio aelod o Swyddfa'r Prif Weithredwr ar 0207 943 0600;
- drwy ysgrifennu i Consumer Financial Education Body, 25 The North Colonnade, Canary Wharf, London, E14 5HS; neu
- drwy e-bostio financial.capability@moneymadeclear.org.uk.
Byddwn yn anfon cydnabyddiaeth o fewn 5 diwrnod gwaith ac yn ymateb i chi o fewn 10 diwrnod gwaith.
Er mwyn sicrhau ein bod yn dysgu o'r adborth a gawn, mae ein Bwrdd yn cael adroddiadau rheolaidd sy'n crynhoi unrhyw gwynion a sylwadau rydym wedi'u cael a'r camau rydym wedi'u cymryd.
Oes gennych gwestiwn am arian?
Mae ein staff hyfforddedig yma i'ch helpu i weithio allan beth sy'n addas i chi. Beth bynnag yw eich cwestiwn rydym yma i helpu ac, os na allwn ni roi ateb i chi, byddwn yn eich cyfeirio at rywun a fydd yn gallu. Waeth beth yw eich problem neu gwestiwn, mae croeso i chi ofyn i ni.
Ffonio ni
Dydd Llun i ddydd Gwener – 8am i 8pm (ac eithrio Gwyliau Banc)
- Ffôn –0300 500 5000*
- Typetalk – 18001 0300 500 5000*
- O dramor – +44 20 7943 0500 (prif switsfwrdd)
* Beth bynnag fo eich tariff, bydd pris galwad i rif 0300 yr un peth â phris galwad i rif ffôn arferol. Os yw eich galwadau am ddim, yna bydd am ddim, hyd yn oed o ffôn symudol.
Rydym yn ymrwymedig i roi gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant. Ni fyddwn yn ceisio gwerthu unrhyw beth i chi ac nid ydym yn argymell cynhyrchion na darparwyr penodol.
Cymryd rhan
Os ydych yn helpu pobl â'u harian ac am gysylltu â ni er mwyn cymryd rhan yn ein gwaith, ewch i'n gwefan gorfforaethol.
Adborth ar ein gwefannau
Os hoffech roi adborth i ni ar unrhyw un o'n gwefannau neu roi gwybod i ni am ddolenni cyswllt sydd wedi torri e-bostiwch consumer.website@moneymadeclear.org.uk ynglŷn â phob safle Moneymadeclear neu tables@moneymadeclear.org.uk ynglŷn â'r Tablau cymharu.
Os ydych yn ceisio cysylltu â'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA), ewch i'w wefan i gael manylion cyswllt.
